HYGYRCHEDD

Defnyddia’r bar offer hygyrchedd ReciteMe i gyfieithu’r holl safle i’r Gymraeg a’i wneud yn haws ei ddefnyddio.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhoi’r bar offer hygyrchedd ar waith

Mae modd rhoi’r bar offer hygyrchedd ar waith drwy ddefnyddio’r botwm isod:

Mae dolen i’r bar ar waelod pob tudalen ar y safle.

Bydd y bar offer yn rhoi testun-i-lais ar waith yn awtomatig. Os nad wyt ti eisiau defnyddio hwn, pwysa’r botwm gosodiadau, ac wedyn diffodd autoplay. Mae modd diffodd y bar offer unrhyw bryd drwy bwyso’r botwm “X”.

SUT MAE DEFNYDDIO’R BAR OFFER

Edrycha ar: Defnyddio'r bar offer

RHAGLENNI DARLLEN SGRIN A LLWYBRAU BYR BYSELLFWRDD

Mae gan wefan Childline fysellau mynediad arbennig:

  • Alt ac 1 i fynd i'r hafan.
  • Alt a 0 i fynd at ein gwybodaeth hygyrchedd.

Wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin, mae modd pwyso Alt ac S i osgoi’r gwe-lywio ar ein tudalennau.

Screen readers and keyboard shortcuts

The Childline website has special access keys:

  • Press Alt and 1 to go to the homepage.
  • Press Alt and 0 to go to our accessibility information.

If you're using a screen reader, you can press Alt and S to skip navigation on our pages.

DEFNYDDIO CHILDLINE OS WYT TI’N FYDDAR

Mae SignVideo yn golygu bod modd cysylltu â chwnselydd drwy ddehonglydd BSL. Mae’r gwasanaeth ar gael Llun – Gwener, 8am - 8pm ac ar ddydd Sadwrn, 8am - 1pm.

Sut mae defnyddio SignVideo:

  • Agora SignVideo a chlicio "allow webcam".
  • Ar ôl cysylltu, bydd dehonglydd yn ymddangos ar y sgrin.
  • Mae modd sgwrsio â’r dehonglydd mewn BSL.
  • Bydd yn cyfieithu’r sgwrs i'r cwnselydd.

Anfon neges o gyfrif Childline

Defnyddia dy gyfrif Childline i anfon e-bost ac fe gei di ateb o fewn 24 awr. Efallaii na fyddwn ni’n gallu dy gefnogi’n Gymraeg yn syth, a byddwn fel arfer yn ateb yn Saesneg i ddechrau. I’n helpu ni i dy gefnogi’n well, copïa a gluda hyn ar ddechrau dy neges: “I would like to speak to Childline in Welsh, please pass this message to a Welsh speaking counsellor”

Cael sgwrs un-i-un ar-lein

Mae modd siarad â chwnselydd ar-lein, ond yn anffodus fydd y bar offer hygyrchedd ddim yn gweithio ar gyfer sgyrsiau un-i-un. Efalla na fydd y person ti’n ei gyrraedd yn siarad Cymraeg, ond os gwnei di ddweud wrtho’n Saesneg dy fod yn dymuno siarad yn Gymraeg, bydd yn gweld a oes rhywun ar gael.

Cysylltu â Childline os ydych yn fyddar