Coronafeirws

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus neu os ydy COVID-19 yn gwneud bywyd yn anoddach, rydyn ni yma i helpu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Beth yw Coronafeirws?

Mae COVID-19 yn fath o goronafeirws. Gall effeithio ar ysgyfaint a llwybrau anadlu pobl, ond mae’n llai difrifol i blant a phobl ifanc fel arfer. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael COVID neu’r coronafeirws yn gwella’n llwyr, ond gall fod yn beryglus i rai pobl o hyd.

Yn 2020, roedd llawer o’r byd mewn cyfnod clo. Roedd hyn yn golygu bod adegau pan nad oedd pobl yn gallu mynd i’r ysgol neu i’r gwaith, nad oeddent yn gallu gweld pobl y tu allan i’w cartref a’u bod wedi gorfod aros gartref y rhan fwyaf o’r amser.

Er bod y cyfyngiadau symud wedi dod i ben, mae llawer o bobl yn dal i deimlo eu bod yn cael eu heffeithio ganddynt. Os ydych chi’n poeni am COVID-19 neu unrhyw beth sydd wedi digwydd, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.

Ymdopi ar ôl y cyfyngiadau symud

Mae’r cyfyngiadau symud wedi cael effaith fawr ar fywydau llawer o bobl. Ac er ei fod wedi dod i ben, mae llawer o bobl yn dal i gael trafferth.

Mae llawer o bethau y gallech fod yn poeni amdanyn nhw, a gall siarad am yr hyn sy’n digwydd helpu.

Efallai eich bod yn cael trafferth ymdopi â’r canlynol:

Delio â gorbryder

Mae’n naturiol teimlo’n bryderus am bethau sy’n digwydd yn y byd, yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo dan reolaeth. Ond beth bynnag sy’n digwydd, mae ffyrdd o ymdopi:

  • Siarad amdano
    Dydych chi ddim ar eich pen eich hun o ran sut rydych chi’n teimlo, a gall siarad helpu. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo (Saesneg) neu gwnselydd Childline.
  • Canolbwyntio ar eich corff
    Gall gorbryder deimlo’n llethol weithiau, ond gall canolbwyntio ar eich anadlu (Saesneg) a rhoi cynnig ar ymarferion helpu i’ch tawelu.
  • Osgoi’r newyddion am gyfnod
    Bydd gan lawer o erthyglau newyddion deitlau sydd wedi’u cynllunio i’ch gwneud chi’n bryderus, er mwyn eich cymell i’w darllen. Edrychwch dim ond ar newyddion rydych chi’n ymddiried ynddo (Saesneg) a chymryd seibiant oddi wrtho bob dydd.
  • Rhoi amser i chi’ch hun
    Mae’n naturiol poeni ac mae’n iawn bod angen amser i chi’ch hun. Os ydych chi’n gwthio eich hun i fwrw ymlaen, gwnewch amser i gymryd seibiant a gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau.